Am ein cynlluniau cymorth cyfreithiol

Ar y dudalen hon:

Beth yw’r CLS?

Mae’r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol (CLS) yn rhwydwaith o ddarparwyr cyngor a ariannir gan yr LSC. Mae’r cynllun cymorth cyfreithiol hwn yn helpu pobl i ddiogelu eu hawliau.  Y gyfraith sifil yw’r adran o’r gyfraith sy’n ymdrin ag anghydfod rhwng unigolion neu sefydliadau. Yn hytrach nag unrhyw ddedfryd, mewn dalfa neu fel arall, y canlyniad yn y diwedd fel arfer yw iawndal ariannol.

Mae pobl sy’n profi problemau cymdeithasol yn aml angen cyngor cyfreithiol mewn meysydd megis chwalfa perthynas, dyled, tai, trais domestig a budd-daliadau.  Mae help hefyd ar gael ar gyfer lloches a mewnfudo, addysg, cyflogaeth, iechyd meddwl a materion gofal yn y gymuned.  Medrai’r math hwn o help gynnwys darparu taflenni gwybodaeth neu gyfeirio pobl at wasanaethau eraill megis cynghori dyled neu gyfryngu. Mae cymorth cyfreithiol sifil hefyd ar gael ar gyfer cyngor arbenigol a mynd ag achosion i’r llys lle bo angen.

Gall cymorth cyfreithiol sifil ariannu:

Gall hefyd gefnogi ariannu rhai achosion preifat yn cynnwys trafodion sawl-parti.

Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yw’n llinell gymorth sy’n cynnig cyngor cyfrinachol ac annibynnol yn rhad ac am ddim.
Ffoniwch y llinell gymorth yn awr ar 0845 345 4345.

Beth yw’r CDS?

Mae’r Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol (CDS) yn defnyddio cymorth cyfreithiol troseddol i helpu pobl sydd dan ymchwiliad neu sy’n wynebu cyhuddiadau troseddol.

Drwy sicrhau fod gan bobl a gyhuddir o drosedd fynediad i gyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol, mae’r CDS hefyd yn helpu’r heddlu a’r llysoedd i weithredu’n deg ac effeithiol.

Gall cymorth cyfreithiol troseddol gynnig:

 

Last updated: 19 February 2008

Dogfennau
Dim dogfennau
Dolennau
About Us [1] - About legal aid [2] - Community Legal Service (CLS) [3] - Criminal Defence Service (CDS) [4] - Site Map [5] - Help [6] - Document Archive [7] - Search [8] - Home [9] - LSC Online [o]
[Access Key]

© 2008 Legal Services Commission. All Rights Reserved.
Read our: Legal Disclaimer, Privacy and Copyright Notice