Cael cymorth cyfreithiol ar gyfer Cynrychiolaeth Gyfreithiol
Mae Cynrychiolaeth Gyfreithiol yn fath o gymorth cyfreithiol sy'n helpu gyda chostau cyflwyno mathau penodol o achosion sifil gerbron llys neu dribiwnlys. Mae'n cynnwys y costau o gael cyfreithiwr neu fargyfreithiwr i siarad ar eich rhan. Dyma sut y gall Cynrychiolaeth Gyfreithiol eich helpu i dalu eich costau cyfreithiol.
Beth yw Cynrychiolaeth Gyfreithiol
Math penodol o gymorth cyfreithiol yw Cynrychiolaeth Gyfreithiol. Gall helpu gyda chostau paratoi neu gyflwyno'ch achos gerbron llys neu dribiwnlys a chael cyfreithiwr neu fargyfreithiwr i siarad ar eich rhan.
Mae Cynrychiolaeth Gyfreithiol ar gael drwy gydol yr amser y mae angen cyfreithiwr arnoch i fwrw ymlaen â'ch achos. Os bydd eich cyfreithiwr, ar unrhyw adeg, o'r farn nad yw eich achos yn ddigon cryf, mae'n bosib y bydd eich cymorth cyfreithiol yn dod i ben.
Ceir rheolau pendant ynghylch a fyddwch yn gallu cael cymorth cyfreithiol ar gyfer Cynrychiolaeth Gyfreithiol yn dibynnu ar ba fath o broblem sydd gennych. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gymorth cyfreithiol a sut i gael y cymorth hwn drwy ddilyn y dolenni isod.
Cynrychiolaeth Gyfreithiol os ydych wedi cael eich cyhuddo o drosedd
Os ydych wedi cael eich cyhuddo o drosedd, mae'r broses ar gyfer cael cymorth cyfreithiol yn wahanol i achos nad yw'n un troseddol (sifil). Os yw'r heddlu am eich holi, os ydych wedi cael eich arestio, os ydych wedi cael eich cyhuddo o gyflawni trosedd neu os byddwch yn mynd i'r llys, mae'r ddolen isod yn dweud wrthych sut i gael help.
Beth yw Cynrychiolaeth Gyfreithiol a Reolir?
Mae Cynrychiolaeth Gyfreithiol a Reolir yn cynnwys costau cyfreithiwr wrth baratoi eich achos a siarad ar eich rhan mewn rhai tribiwnlysoedd. I gael Cynrychiolaeth Gyfreithiol a Reolir, rhaid i'ch cyfreithiwr fod o'r farn bod gennych achos eithaf cryf.
Byddwch yn cael Cynrychiolaeth Gyfreithiol a Reolir os ydych yn apelio i'r Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl yng Nghymru neu'r Tribiwnlys Haen Gyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl yn Lloegr.
Os ydych yn apelio i'r Tribiwnlys Lloches a Mewnfudo, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael Cynrychiolaeth Gyfreithiol a Reolir. I fod yn gymwys, mae'n rhaid bod eich cyfreithiwr o'r farn bod eich achos yn un cryf a bod eich cyfalaf gwario (eich incwm neu'ch cynilion) yn £3000 neu lai.
Diweddarwyd diwethaf: 09 Mai 2011

