Cymorth cyfreithiol a chynrychiolaeth mewn llys os cyhuddir chi o drosedd
Os cawsoch eich cyhuddo o drosedd, gall cymorth cyfreithiol efallai dalu am gyfreithiwr neu fargyfreithiwr i’ch cynrychioli mewn llys. I gael cymorth cyfreithiol mae angen ichi gwrdd ag amodau arbennig. Dysgwch fwy i weld a ydych yn gymwys am gymorth cyfreithiol i gael eich cynrychioli mewn achos troseddol.
Cymorth cyfreithiol ar gyfer cynrychiolaeth – gwirio a ydych yn gymwys
Efallai y bydd angen cyfreithiwr neu fargyfreithiwr i’ch cynrychioli mewn llys ynadon neu Lys y Goron pan cewch eich cyhuddo o drosedd. Medrant helpu i baratoi eich amddiffyniad cyn mynd i’r llys a siarad ar eich rhan yn ystod yr achos.
Gallwch efallai gael cymorth cyfreithiol i dalu costau’r cyfreithwyr neu’r bargyfreithwyr os:
- yw eich achos yn bodloni’r prawf Budd Cyfiawnder
- ydych yn pasio ‘prawf modd’ sy’n edrych ar eich sefyllfa ariannol
I weld a allwch gael cymorth cyfreithiol i dalu am hyn, bydd angen ichi roi’r pethau canlynol i’ch cyfreithiwr neu fargyfreithiwr:
- manylion y math o achos ydyw
- gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol (fel eich incwm)
Beth sydd angen ichi ei ddangos i’ch cynghorydd cyfreithiol
Pan fyddwch yn ymweld â’ch cyfreithiwr neu fargyfreithiwr am y tro cyntaf, dylech fynd â’r disgrifiad o'ch cyhuddiad, eich gwŷs neu unrhyw bapurau eraill a roddwyd ichi gan yr heddlu neu'r llys.
Dylech hefyd fynd â thystiolaeth o unrhyw fudd-daliadau neu incwm yr ydych yn ei gael, fel llythyrau hysbysu dyfarnu budd-dâl neu slip cyflog diweddar.
Os ydych yn hunan-gyflogedig, dylech fynd â’ch cyfrifon diweddaraf (y 18 mis diwethaf) neu ffurflen dreth lawn.
Os yw eich achos yn Llys y Goron, bydd hefyd angen ichi roi tystiolaeth i’ch cynghorydd cyfreithiol o unrhyw asedau ‘cyfalaf’, fel eiddo yr ydych yn berchen arno.
Y prawf Budd Cyfiawnder
Bydd eich cyfreithiwr yn gwirio i weld a ddylech chi yn eich achos gael cymorth cyfreithiol tuag at eich cynrychiolaeth gyfreithiol yn y llys. Rydych yn debygol o basio’r prawf hwn os oes posibilrwydd:
- y gallech fynd i’r carchar
- y gallech golli eich gwaith
- y gallech golli eich enw da
- y byddwch yn ei chael yn anodd dilyn yr achos llys oherwydd trafferthion iaith neu salwch meddwl
Edrych ar eich sefyllfa ariannol – y ‘prawf modd’
Bydd eich cyfreithiwr yn edrych ar eich sefyllfa ariannol (er enghraifft, eich incwm a’ch cynilion) i weld a allwch fforddio eich cynrychiolaeth gyfreithiol eich hun.
Byddwch yn cymhwyso’n awtomatig am gymorth cyfreithio os ydych:
- yn cael Cymorth Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith ar Sail Incwm neu Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth Gwarantedig
- o dan 16 oed (neu o dan 18 oed ac mewn addysg llawn amser)
Os yw eich achos yn cael ei glywed mewn llys ynadon
Os na fyddwch yn pasio’r prawf modd yn awtomatig, gallwch dal fod yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol mewn llys ynadon os:
- yw eich incwm blynyddol o dan £12,475
- yw eich incwm blynyddol rhwng £12,475 a £22,325 ond mae'r incwm misol sydd gennych dros ben yn llai na £283 y mis
Incwm dros ben yw faint o arian sydd gennych ar ôl wedi talu biliau hanfodol.
Os yw eich incwm dros ben yn fwy na £283 y mis, bydd yn rhaid ichi dalu eich biliau cyfreithiol eich hun.
Os yw eich achos yn Llys y Goron
Os na fyddwch yn pasio’r prawf modd yn awtomatig, gallwch dal fod yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol yn Llys y Goron os:
- yw eich incwm dros ben yn llai na £283 y mis
- na allwch fforddio talu o’ch incwm
Os yw eich incwm misol dros ben yn £283 neu’n fwy bydd yn rhaid ichi dalu 90 y cant ohono tuag at ffioedd cyfreithiol am hyd at bum mis. Neu gallwch dalu’r cyfan mewn un swm yn syth.
Talu cymorth cyfreithiol yn ôl os cewch eich dyfarnu’n euog
Bydd pryd ac os bydd angen ichi dalu cymorth cyfreithiol yn ôl yn dibynnu ar y math o lys a ddeliodd gyda’ch achos ac ar eich amgylchiadau ariannol.
Os bydd llys ynadon yn eich cael yn euog, ni fydd angen ichi dalu’r cymorth cyfreithiol yn ôl.
Os bydd Llys y Goron yn eich cael yn euog, efallai y bydd raid ichi dalu peth neu’r cyfan o'r cymorth cyfreithiol yn ôl os oes gennych fwy na £30,000 mewn 'cyfalaf'. Mae ‘cyfalaf’ yn golygu, er enghraifft, eich incwm, cynilion, eiddo a’ch buddsoddiadau. Dylech gael gair â’ch cyfreithiwr am gyngor pellach.
Diweddarwyd diwethaf: 05 Mai 2011

