Beth yw cymorth cyfreithiol?
Am cymorth cyfreithiol
Mae’r llywodraeth yn darparu cyllid ar gyfer cymorth cyfreithiol i helpu pobl i:
- ddiogelu eu hawliau sylfaenol a chael gwrandawiad teg
- cael mynediad i’r broses llysoedd i gael ateb i anghydfod
- datrys problemau sy’n cyfrannu at allgau cymdeithasol
Mae’r LSC yn rhedeg y cynllun cymorth cyfreithiol yn Lloegr a Chymru. Caiff ein gwaith ei oruchwylio gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a chaiff y gyllideb gyfreithiol flynyddol ei gosod gan y Trysorlys.
Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yw ein llinell gymorth yn cynnig gwasanaeth cyfreithiol cyfrinachol ac annibynnol yn rhad ac am ddim.
Ffoniwch y llinell gymorth yn awr ar 0845 345 4345.
Helpu pobl i gael mynediad i gymorth cyfreithiol
Defnyddiwn ein cyllideb flynyddol o £2 biliwn y flwyddyn i helpu tua dwy filiwn o bobl i gael mynediad i gymorth cyfreithiol bob blwyddyn.
Drwy ein cynlluniau cymorth cyfreithiol ariannwn gyfreithwyr ac asiantaethau cyngor i:
- gynghori pobl ar eu problemau cyfreithiol (megis chwalfa deuluol, dyled a cholli eu cartrefi)
- helpu pobl i ddeall eu hawliau a’r gyfraith
- cynghori pobl a gedwir mewn gorsafoedd heddlu
- os oes angen, cynrychioli pobl mewn llys.
Ein hamcan yw helpu cynifer o bobl gymwys ag sydd modd, o fewn cyllideb gyfyngedig.
Mae cymorth cyfreithiol yn sylfaenol i gyfiawnder cymdeithasol. Darllenwch fwy am pam fod cymorth cyfreithiol yn bwysig yma.
I gael gwybodaeth bellach
Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yw ein llinell gymorth sy’n cynnig cyngor cyfreithiol cyfrinachol ac annibynnol yn rhad ac am ddim.
Ffoniwch y llinell gymorth yn awr ar 0845 345 4345.
Mae gwybodaeth bellach am gymorth cyfreithiol ar gael ar y dudalen Taflenni gwybodaeth cymorth cyfreithiol. Mae’r taflenni hyn yn cynnwys:
- sut yr ariannwn y gwasanaeth cyfreithiol sifil a throseddol
- eich hawliau yn yr orsaf heddlu ac yn y llys
Y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol sydd yng ngofal cymorth cyfreithiol yn Lloegr a Chymru. Mae Bwrdd Cymorth Cyfreithiol yr Alban a Creithiol Gogledd Iwerddon yn rhedeg y system yn y gwledydd hynny.
>I ddarllen y dudalen yma yn Saesneg
Last updated: 26 February 2008

