Ble i gael cyngor cyfreithiol

Gallwch gael cyngor cyfreithiol ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys am gymorth cyfreithiol i helpu i dalu am gostau cyfreithiol. Dysgwch fwy am ble i fynd am gymorth a beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn siarad gyda chynghorydd cyfreithiol.

Cael cymorth cyfreithiol

Dylech holi i weld a allwch gael cymorth cyfreithiol i helpu gyda’ch problem. Cynllun yw cymorth cyfreithiol sy’n helpu pobl i dalu am gyngor cyfreithiol. Efallai y byddwch yn cael cymorth cyfreithiol os gallwch gwrdd ag amodau arbennig. I gael gwybod mwy am gymorth cyfreithiol, cliciwch ar y dolenni isod.

Sefydliadau sy’n cynnig help a chyngor di-dâl

Cyngor Cyfreithiol Cymunedol
Ffôn: 0845 345 4 345
Oriau agor: Dydd Llun tan ddydd Gwener 9.00am tan 8.00pm. Dydd Sadwrn 9.00am tan 12.30pm.

Mae’r sefydliadau isod yn cynnig cyngor annibynnol a di-dâl ar eich problemau cyfreithiol a’r ffordd orau o ddelio gyda nhw.

Cyngor Cyfreithiol Cymunedol

Gall y gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol roi help neu gyngor cyfreithiol am ddim dros y ffôn. Gallant helpu gyda phroblemau teuluol, dyledion, tai, cyflogaeth, addysg, budd-daliadau lles a chredydau treth.

Bydd y gwasanaeth hwn naill ai'n eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd lleol neu'n gwirio eich cymhwyster ac yn eich rhoi mewn cysylltiad â chynghorydd arbenigol annibynnol dros y ffôn i'ch helpu gyda'ch problem. Os nad ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, gall y gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun a fydd yn gallu eich helpu.

Ffôn: 0845 345 4 345

Oriau agor: Dydd Llun tan ddydd Gwener 9.00am tan 8.00pm. Dydd Sadwrn 9.00am tan 12.30pm.

Mae’r galwadau’n costio 4 ceiniog y funud o linell dir BT. Mae galwadau o ffonau symudol fel arfer yn costio mwy. Os ydych yn poeni am gost yr alwad, gallant eich ffonio’n ôl.

Gallwch hefyd decstio ‘legalaid’ yna eich enw at 80010 a bydd y gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn eich ffonio’n ôl o fewn 24 awr.

Cyngor ar Bopeth

Gall Cyngor ar Bopeth eich helpu gyda phroblemau cyfreithiol, ariannol neu broblemau eraill drwy roi cyngor cyfrinachol a gwybodaeth am ddim o dros 3,200 o ganolfannau ledled y wlad.

Canolfannau Cyfreithiol

Os bydd achos cyfreithiol efallai’n cael ei ddwyn yn eich erbyn gallwch gael cyngor annibynnol a di-dâl gan eich Canolfan Gyfreithiol leol.

Cael cyngor cyfreithiol yn Iaith Arwyddion Prydain

Mae Cyngor Cyfreithiol Cymunedol mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Frenhinol dros Bobl Fyddar (RAD) yn darparu cyngor cyfreithiol arbenigol, annibynnol yn Iaith Arwyddion Prydain.

Os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth gwe-gamera ar eu gwefan i gael cyngor cyfreithiol.

Cael cyngor cyfreithiol os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf

Mae gan y llinell gymorth gan Gyngor Cyfreithiol Cymunedol wasanaeth cyfieithu di-dâl sy’n rhoi cyngor cyfreithiol mewn 170 o ieithoedd.

Mae gan Gyngor ar Bopeth wybodaeth mewn gwahanol ieithoedd, gan gynnwys Bengaleg, Pwyleg a Gujarateg.

Cael cyngor cyfreithiol ar broblemau ariannol, tai ac fel defnyddiwr

Mae rhai problemau cyfreithiol yn gofyn am gyngor cyfreithiol arbenigol. Gallai'r rhain gynnwys problemau tai, ariannol neu fel defnyddiwr. Bydd cyngor arbenigol yn eich helpu i sicrhau bod eich problem yn cael sylw’n fwy effeithiol. Cliciwch ar y ddolen isod i ddod o hyd i sefydliadau sy'n cynnig cyngor arbenigol.

Mynd at gyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol

Gallwch gael help a chyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol. Gallant ddweud wrthych beth yw eich gwahanol opsiynau a’ch helpu i baratoi eich achos os bydd angen mynd i’r llys.

Pan fyddwch yn siarad gyntaf gyda’ch cynghorydd, dylech gofio y bydd angen ichi gael y wybodaeth ganlynol arnoch:

Os credwch eich bod efallai’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol, dylech hefyd fynd â’r wybodaeth ganlynol gyda chi:

Beth ddylai eich cynghorydd cyfreithiol ei egluro:

Cyn ichi adael y cyfarfod, dylech wybod:

Rhaid ichi sôn am bopeth am eich achos wrth eich cynghorydd cyfreithiol, fel y medrant eich helpu y gorau y gallant. Bydd unrhyw wybodaeth a roddwch iddynt yn cael ei chadw'n breifat a chyfrinachol.

 

 

Diweddarwyd diwethaf: 09 Mai 2011

Dogfennau
Dim dogfennau
Dolennau
About Us [1] - About legal aid [2] - Community Legal Service (CLS) [3] - Criminal Defence Service (CDS) [4] - Site Map [5] - Help [6] - Document Archive [7] - Search [8] - Home [9] - Cymraeg [c] - LSC Online [0]
[Access Key]

© 2010 Legal Services Commission. All Rights Reserved.
Read our: Legal Disclaimer, Privacy and Copyright Notice