Cwyno am gynghorydd cyfreithiol neu gwmni hawliadau
Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch gan gynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr, gallwch gwyno iddynt. Os nad yw hynny’n gweithio, gallwch ofyn am gymorth gan Ombwdsmon. Os gwnaethoch ddefnyddio cwmni rheoli hawliadau, mae rheolydd ar gael i ymchwilio i’ch cwyn. Dysgwch fwy am sut i gwyno.
Beth i’w wneud os ydych yn anhapus gyda’ch cynghorydd cyfreithiol
Os ydych yn anhapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch gan eich cynghorydd cyfreithiol, yn gyntaf dylech sôn wrthyn nhw am y broblem. Dylech roi cyfle iddynt gywiro pethau cyn mynd â’r mater ymhellach.
Gallai’r cynghorydd cyfreithiol fod yn gyfreithiwr, yn fargyfreithiwr, yn drosgludwr (rhywun sy’n gwneud gwaith cyfreithiol ar brynu neu werthu eiddo), neu unrhyw un arall sy’n darparu gwasanaethau cyfreithiol.
Efallai eu bod wedi rhoi gwasanaeth gwael wrth drin mater cyfreithiol fel ysgariad, gwerthu tŷ neu hawliad anaf personol.
Gallai hyn fod am eu bod:heb eich diweddaru’n gyson ar eich achos
- heb eich diweddaru’n gyson ar eich achos
- yn araf deg yn delio gyda’ch problem
- wedi codi gormod arnoch
- heb ddilyn eich cyfarwyddiadau
- wedi rhoi gwybodaeth ddryslyd ichi
- yn ddigywilydd hefo chi
Eglurwch pam ydych yn anhapus a beth ydych am iddynt ei wneud.
Efallai eich bod am gael ymddiheuriad, eich arian yn ôl, neu gymorth ychwanegol os na chawsoch wasanaeth llawn ganddynt. Neu efallai eich bod am i’r cynghorydd newid y ffordd y maent yn gwneud pethau, fel nad oes raid i rywun arall gael yr un profiad.
Sut i wneud cwyn ffurfiol
Os nad ydych yn hapus gydag ymateb eich cynghorydd, yna gallwch wneud cwyn ffurfiol.
Cysylltwch â’r cynghorydd i ofyn am gopi o’u trefn gwyno. Dylai hon egluro:
- sut i gwyno
- ble i anfon eich cwyn
- sut fyddant yn delio gyda'ch cwyn
Bydd y mwyafrif o drefnau cwyno'n gofyn ichi wneud eich cwyn yn ysgrifenedig.
Ysgrifennwch ‘Cwyn Ffurfiol’ ar ben eich llythyr. Ceisiwch fod yn glir ynghylch beth ydych yn cwyno yn ei gylch, a beth ydych am ei weld yn digwydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw copi o’r llythyr a chofiwch wneud nodyn o unrhyw alwadau ffôn i’r cyfreithiwr neu’r cwmni cyfreithiol.
Mynd â’ch cwyn ymhellach – cwyno i’r Ombwdsmon Cyfreithiol
Corff annibynnol sy’n ymchwilio i gwynion am gyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr yw’r Ombwdsmon Cyfreithiol.
Os na fydd eich cynghorydd yn dod yn ôl atoch o fewn wyth wythnos, neu os ydych yn anhapus gyda’u hymateb, gallwch gwyno i’r Ombwdsmon Cyfreithiol. Gallwch hefyd gwyno i’r Ombwdsmon os na chawsoch benderfyniad terfynol o fewn yr amser hwn.
Ni fydd yr Ombwdsmon yn ochri gyda neb, ond bydd yn cael gair gyda chi a’r cynghorydd cyn penderfynu a wnaethant roi gwasanaeth gwael. Mae’n datrys y mwyafrif o broblemau’n anffurfiol, ond gall hefyd ymchwilio i achosion mwy cymhleth.
Gallai’r Ombwdsmon ofyn i’r cynghorydd cyfreithiol:
- ymddiheuro
- dychwelyd dogfennau atoch y gallai fod eu hangen arnoch
- dychwelyd neu leihau y ffioedd cyfreithiol a godwyd arnoch
- talu iawndal hyd at £30,000
Os bydd yr Ombwdsmon yn penderfynu nad yw’r cynghorydd wedi rhoi gwasanaeth gwael, bydd yn egluro pam.
Os cwyno wnaethoch am ymddygiad y cynghorydd, gall yr Ombwdsmon Cyfreithiol gyfeirio’r mater at reolydd, fel yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.
Gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon yn:
Legal Ombudsman
PO Box 15870
Birmingham
B30 9EB
Ffôn: 0300 555 0333 (Dydd Llun tan Ddydd Gwener 8.30 am tan 5.30 pm)
E-bost:
enquiries@legalombudsman.org.uk
Os gwnaethoch gwyno cyn 6 Hydref 2010
Os gwnaethoch gwyno am gyfreithiwr cyn 6 Hydref 2010, byddech wedi mynd at sefydliad fel y Gwasanaeth Cwynion Cyfreithiol.
Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd y cafodd eich cwyn ei thrin, gallwch ofyn i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyfreithiol adolygu eich cwyn.
Sut i gwyno am fusnes rheoli hawliadau
Mae pobl hefyd yn cyfeirio at fusnesau rheoli hawliadau fel pobl trin hawliadau, rheolwyr hawliadau ac aseswyr hawliadau. Defnyddir hwynt yn aml i gael iawndal mewn achosion anafiadau personol.
Os gwnaethoch ddefnyddio busnes rheoli hawliadau a rydych yn anhapus gyda’u gwasanaeth, dylech ddilyn eu trefn gwyno. Dylai hon fod ar eu gwefan, ond gallwch hefyd ofyn am gopi.
Os na fyddwch yn clywed ganddynt o fewn wyth wythnos i wneud cwyn, neu os ydych yn anhapus gyda'u hymateb, gallwch gysylltu â’r Rheolydd Rheolwyr Hawliadau.
Gall y rheolydd ofyn i’r busnes:
- ymddiheuro
- ail-wneud y gwaith heb godi tâl
- talu ffi yn ôl
Nid oes tâl am y gwasanaeth, ond ni all y rheolydd orfodi’r busnes i dalu iawndal.
Gallwch gysylltu â’r rheolydd yn:
Claims Management Regulator
57-60 High Street
Burton on Trent
Staffordshire
DE14 1JS
E-bost: consumer@claimsregulation.gov.uk Ffôn: 0845 450 6858
Cwyno am gynghorydd cyfreithiol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon
Os oes gennych gŵyn am gynghorydd cyfreithiol yn yr Alban, dylech gwyno i'r Comisiwn Cwynion Cyfreithiol yn yr Alban.
Os oes gennych gŵyn am gyfreithiwr yng Ngogledd Iwerddon gallwch gysylltu â Chymdeithas y Cyfreithwyr yng Ngogledd Iwerddon.

Diweddarwyd diwethaf: 24 Mai 2011

