Cymorth cyfreithiol - rhagarweiniad
Cynllun yw cymorth cyfreithiol sy’n helpu pobl i dalu am y gost o gael cyngor cyfreithiol. Rhaid ichi fodloni rhai amodau i fod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol. Dysgwch fwy am sut y mae cymorth cyfreithiol yn gweithio a pha gostau cyfreithiol y gall gyfrannu atynt.
Beth yw cymorth cyfreithiol?
Cynllun yw cymorth cyfreithiol sy’n helpu pobl i dalu am gyngor cyfreithiol. Byddwch efallai’n cael cymorth cyfreithiol os gallwch gwrdd ag amodau arbennig. Mae’r rhain yn cynnwys:
- y math o broblem sydd gennych
- eich amgylchiadau ariannol
- faint o gymorth sydd ei angen arnoch
Efallai na fydd cymorth cyfreithiol yn gallu cyfrannu at holl gostau eich achos. Hefyd, efallai y bydd angen ichi dalu’r arian cymorth cyfreithiol yn ôl os byddwch yn ennill unrhyw arian neu eiddo o ganlyniad i’ch achos.
Cymorth cyfreithiol mewn achosion troseddol
Os cyhuddwyd chi o drosedd, mae cael cymorth cyfreithiol yn wahanol i’w gael ar gyfer achos di-droseddol (sifil). Os yw’n bosibl y cewch eich holi gan yr heddlu, y cyhuddir chi o drosedd neu os byddwch efallai’n gorfod mynd i’r llys, dysgwch fwy am sut i gael help.
- Cymorth cyfreithiol mewn achosion troseddol
Sut i gael cymorth cyfreithiol
Dylech holi i weld a allech gael cymorth cyfreithiol i helpu gyda’ch problem. Bydd angen ichi gwrdd ag amodau arbennig i gael cymorth cyfreithiol a bydd angen ichi wneud cais drwy gynghorwr cyfreithiol.
Problemau y gallech gael cymorth cyfreithiol ar eu cyfer
Dim ond ar gyfer mathau arbennig o broblemau cyfreithiol y mae cymorth cyfreithiol ar gael: Gallai’r problemau hyn gynnwys:
- budd-daliadau lles, fel problemau gyda’r Lwfans Ceisio Gwaith
- achos yn erbyn yr heddlu, fel arestio ar gam
- esgeulustod clinigol, fel hawliad yn erbyn meddyg neu ddeintydd
- gofal cymunedol, fel hawliadau yn erbyn y gwasanaethau cymdeithasol am beidio â gofalu am berson oedrannus
- Cyfraith defnyddwyr a chontract cyffredinol, fel nwyddau neu wasanaeth gwael
- trosedd, fel cael cymorth yn y llys os cyhuddir chi o drosedd
- dyledion, fel cyngor cyfreithiol os cawsoch eich gwneud yn fethdalwr
- addysg, fel achosion cyfreithiol ynghylch addysg anghenion arbennig
- cyflogaeth, fel hawlio am ddiswyddo annheg neu wahaniaethu na ddeliwyd â fo gan dribiwnlys
- teulu, fel gwahanu ac ysgariad
- tai, fel problemau gyda phrynu neu werthu tŷ
- mewnfudo a chenedligrwydd, fel cael eich alltudio o’r DU
- iechyd meddwl, fel cael cymorth i aelod o’r teulu neu ffrind
- cyfraith gyhoeddus, fel herio penderfyniad gan awdurdod lleol
Problemau na allwch gael cymorth cyfreithiol ar eu cyfer
Ni allwch fel arfer gael cymorth cyfreithiol ar gyfer y problemau canlynol:
- anaf personol
- mynd i Dribiwnlys Cyflogaeth
- difrod anghyfrifol i eiddo
- trosgludiad (lle mae eiddo’n cael ei drosglwyddo’n gyfreithiol drwy brynu neu werthu tŷ neu fflat)
- anghydfod ynghylch ffiniau neu derfynau
- gwneud ewyllys
- difrïo (enllib ac athrod) neu anwiredd maleisus (lledu celwyddau’n fwriadol am bobl)
Y lefelau gwahanol o gymorth cyfreithiol - beth y telir amdano
Mae yna wahanol lefelau o gymorth cyfreithiol i dalu am wahanol gostau cyfreithiol. Bydd lefel y cymorth cyfreithiol y byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar eich achos.
Help Cyfreithiol
Mae Help Cyfreithiol yn talu am y gost o gael cyngor arbenigol. Mae hyn yn cynnwys eich cynghorydd cyfreithiol yn egluro eich hawliau a’r gwahanol opsiynau sydd gennych i ddatrys eich problem. Gall hefyd gynnwys y gost o rywun yn trafod ar eich rhan, yn gwneud yn siŵr bod penderfyniad cyfreithiol sydd eisoes yn bodoli yn cael ei orfodi, neu’n paratoi achos ysgrifenedig.
Help yn y Llys
Mae Help yn y Llys yn talu am gynghorwr i siarad ar eich rhan mewn llys sifil os nad oes angen ichi amddiffyn eich hun. Er enghraifft, os ydych wedi cytuno bod arnoch arian i rywun ond mae angen ichi benderfynu sut a phryd i dalu’r ddyled.
Cyfryngu Teuluol
Gall Cyfryngu Teuluol dalu am gyfryngwr annibynnol i geisio eich helpu i ddatrys anghydfod teuluol heb fod angen ichi fynd i’r llys. Er enghraifft gallant eich helpu i gytuno ar gyswllt gyda’ch plant os bydd eich perthynas yn chwalu.
Help Teuluol
Mae Help Teuluol yn cynnig cymorth neu gynrychiolaeth ar gyfer anghydfod teuluol. Er enghraifft, gall eich helpu i lunio cytundeb cyfreithiol rhyngoch chi â’ch partner neu ŵr / gwraig. Ond nid yw’n cyfrannu at gost rhywun yn siarad ar eich rhan neu’n eich cynrychioli mewn gwrandawiad llys terfynol neu apêl.
Cynrychiolaeth Gyfreithiol
Mae Cynrychiolaeth Gyfreithiol yn helpu gyda’r gost o fynd â rhai mathau o achosion sifil i’r llys neu i dribiwnlys. Mae’n cynnwys y gost o gyfreithiwr neu fargyfreithiwr yn siarad ar eich rhan fel rhan o’ch amddiffyniad. Dysgwch fwy am Gynrychiolaeth Gyfreithiol drwy glicio’r ddolen isod.
- Cael cymorth cyfreithiol ar gyfer Cynrychiolaeth Gyfreithiol
Cael help cyfreithiol ar frys
Ar gyfer achosion brys – er enghraifft i’ch cadw chi a’ch plant yn ddiogel rhag cael eich cam-drin – efallai y gallwch gael cynrychiolaeth gyfreithiol ar frys. Dylech siarad gyda chynghorydd cyfreithiol fydd yn gallu gwneud cais am gynrychiolaeth gyfreithiol ar frys ar eich rhan.
Cael cymorth cyfreithiol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae cymorth cyfreithiol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi'i reoli gan Fwrdd Cymorth Cyfreithiol yr Alban a Chomisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol Gogledd Iwerddon.
- Bwrdd Cymorth Cyfreithiol yr Alban
- Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol Gogledd Iwerddon
Cymorth cyfreithiol ar gyfer problem dramor
Dim ond mewn achosion sifil y gallwch ymgeisio am gymorth cyfreithiol ar gyfer problem dramor. Ni chewch gymorth cyfreithiol am achosion troseddol dramor. I gael gwybod os gallwch gael cymorth cyfreithiol am broblem dramor, dylech siarad â chynghorydd cyfreithiol.
Diweddarwyd diwethaf: 06 Mai 2011

