Cyngor Cyfreithiol Cymunedol
Mae Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (CLA) yn wasanaeth di-dâl a chyfrinachol sy’n cael ei ariannu gan gymorth cyfreithiol. Mae’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yn rhedeg y cynllun cymorth cyfreithiol a gwasanaeth CLA yng Nghymru a Lloegr.
Pwy all ddefnyddio gwasanaeth CLA?
Gall pobl sy’n byw ar incwm isel neu fudd-daliadau fod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol i gael cyngor arbenigol am ddim gan gynghorwyr cyfreithiol cymwysedig ar broblemau/materion budd-daliadau a chredydau treth, dyledion, addysg, tai, cyflogaeth a theuluol. Mae’r cyngor a roddir yn annibynnol a chyfrinachol ac mae’n ymwneud â chyfraith Cymru a Lloegr.
Os nad ydynt yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, bydd Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn chwilio am ffyrdd i’w rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau eraill.
Canfod a yw person yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol
Sut mae pobl yn cael cyngor drwy CLA?
- Ffonio’r llinell gymorth ar 0845 345 4 345 http://www.direct.gov.uk/cysylltuCLA
- Mynd i un o’r canolfannau neu rwydweithiau cynghori lleol. I weld a oes un yn eich ardal chi, ewch i
Cewch weld yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan y gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol drwy ddarllen eu Siarter Cwsmeriaid.
Adborth
Os oes gennych ymholiadau cyffredinol am y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol, cysylltwch â’r adran Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 0856 643, dydd Llun i ddydd Gwener, 9am -5pm.
Os hoffech wneud sylw ar unrhyw agwedd ar wasanaeth CLA, ffoniwch y llinell gymorth ar 0845 345 4 345. Mae gwasanaeth cyfieithu di-dâl ar gael mewn 170 o ieithoedd (llinell ieithoedd) Ni fydd y rhan fwyaf o alwadau’n costio mwy na 4c y funud.
Gallwch lenwi ffurflen galw'n ôl i drefnu amser i weithredwr eich ffonio’n ôl.
Ni fydd eich manylion yn cael eu rhannu ag unrhyw drydydd parti. Gweler polisi preifatrwydd CLA am ragor o wybodaeth.
Last updated: 13 April 2011
