Gwybodaeth corfforaethol

Popeth am yr LSC

Ar y dudalen hon:

Pwy ydym ni

Y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol (LSC) sydd yng ngofal cymorth cyfreithiol yn Lloegr a Chymru. Rydym hefyd yn gwneud yn siŵr fod pobl yn cael yr wybodaeth, cyngor a help cyfreithiol y maent ei angen i ymdrin ag ystod eang o broblemau.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda chyfreithwyr a sefydliadau dim-er-elw i ddarparu gwasanaethau i helpu pobl mewn angen.

Ein gweledigaeth yw gwneud yn siŵr y gall cleientiaid gael mynediad i’r help maent ei angen i fynd i’r afael â’u problemau.

Sut ydym yn helpu

Bob blwyddyn mae’r LSC yn helpu mwy na dwy filiwn o bobl i ymdrin â’u problemau cyfreithiol.

Ni sy’n rhedeg y cynllun cymorth cyfreithiol, sy’n diogelu rhai o bobl fwyaf agored i niwed a difreintiedig yn ein cymdeithas.

Mae cymorth cyfreithiol yn helpu i sicrhau mynediad i gyfiawnder drwy ddarparu cyngor, gwybodaeth a chynrychiolaeth ansawdd uchel i bobl na fyddai’n medru ei fforddio fel arall.

Mae’n golygu y gall cleientiaid ddiogelu eu hawliau drwy:

Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yw’n llinell gymorth sy’n cynnig cyngor cyfreithiol cyfrinachol ac annibynnol yn rhad ac am ddim.

Ffoniwch y llinell gymorth yn awr ar 0845 345 4345.

I gael mwy o wybodaeth

Darllenwch fwy am sut mae’r LSC yn gweithio yn yr adran Ein sefydliad.

Darllenwch fwy am gymorth cyfreithiol yma.

Beth yw cymorth cyfreithiol?

Ar y dudalen hon:

Am cymorth cyfreithiol

Mae’r llywodraeth yn darparu cyllid ar gyfer cymorth cyfreithiol i helpu pobl i:

Mae’r LSC yn rhedeg y cynllun cymorth cyfreithiol yn Lloegr a Chymru. Caiff ein gwaith ei oruchwylio gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a chaiff y gyllideb gyfreithiol flynyddol ei gosod gan y Trysorlys.

Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yw ein llinell gymorth yn cynnig gwasanaeth cyfreithiol cyfrinachol ac annibynnol yn rhad ac am ddim.

Ffoniwch y llinell gymorth yn awr ar 0845 345 4345.

Helpu pobl i gael mynediad i gymorth cyfreithiol

Defnyddiwn ein cyllideb flynyddol o £2 biliwn y flwyddyn i helpu tua dwy filiwn o bobl i gael mynediad i gymorth cyfreithiol bob blwyddyn.

Drwy ein cynlluniau cymorth cyfreithiol ariannwn gyfreithwyr ac asiantaethau cyngor i:

Ein hamcan yw helpu cynifer o bobl gymwys ag sydd modd, o fewn cyllideb gyfyngedig.

Mae cymorth cyfreithiol yn sylfaenol i gyfiawnder cymdeithasol. Darllenwch fwy am pam fod cymorth cyfreithiol yn bwysig yma.

I gael gwybodaeth bellach

Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yw ein llinell gymorth sy’n cynnig cyngor cyfreithiol cyfrinachol ac annibynnol yn rhad ac am ddim.

Ffoniwch y llinell gymorth yn awr ar 0845 345 4345.

 

Last updated: 15 February 2008

Dogfennau
Dim dogfennau
Dolennau
About Us [1] - About legal aid [2] - Community Legal Service (CLS) [3] - Criminal Defence Service (CDS) [4] - Site Map [5] - Help [6] - Document Archive [7] - Search [8] - Home [9] - LSC Online [o]
[Access Key]

© 2008 Legal Services Commission. All Rights Reserved.
Read our: Legal Disclaimer, Privacy and Copyright Notice