Cyngor cyfreithiol di-dal ar broblemau ariannol, tai ac fel defnyddiwr

Os oes gennych broblemau cyfreithiol a rydych yn poeni am y gost o gael cymorth cyfreithiol, gallwch gael cyngor am ddim gan arbenigwyr. Bydd yn eich helpu i ddeall yn well beth yw eich opsiynau ar gyfer datrys y broblem. Dysgwch fwy am lle i fynd i gael cyngor cyfreithiol arbenigol.

Cyngor cyfreithiol di-dâl ar broblemau ariannol, tai ac fel defnyddiwr

Am gyngor di-dâl ar broblemau tai neu ariannol, gweler y sefydliadau isod.

Shelter

Mae Shelter yn cynnig cyngor cyfrinachol di-dâl ar anghenion tai, dyledion, budd-daliadau lles, gofal ac iechyd (gan gynnwys hawliau a budd-daliadau anabledd). Yn Lloegr ffoniwch 0808 800 4444 ac yng Nghymru ffoniwch 0845 075 5005.

Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol

Gwasanaeth di-dâl ac annibynnol yw Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol sy'n helpu i setlo anghydfodau rhwng defnyddwyr a busnesau sy'n darparu gwasanaethau ariannol yn y DU. Er enghraifft efallai y gallant eich helpu os ydych yn cael problem gyda chwmni yswiriant neu fanc.

Moneymadeclear

Am gyngor annibynnol ar faterion ariannol (er enghraifft benthyciadau, morgeisi, cynilion, trethi a phensiynau), cysylltwch â Moneymadeclear.

Gwasanaeth Cwnsela ar Gredyd Defnyddwyr (CCCS)

Am gwnsela di-dâl a chyfrinachol ar broblemau dyledion, gan gynnwys cyngor ar gredyd a chyllidebu, ffoniwch y CCCS ar 0800 138 1111 rhwng dydd Llun a dydd Gwener 8.00am tan 8.00pm.

Llinell Ddyled Genedlaethol

Mae’r Llinell Ddyled Genedlaethol yn cynnig cyngor di-dâl, cyfrinachol ac annibynnol dros y ffôn i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Gallwch ffonio eu llinell gymorth a hefyd lawrlwytho cyhoeddiadau oddi ar eu gwefan. Ffoniwch 0808 808 4000 rhwng dydd Llun a dydd Gwener 9.00am tan 9.00pm, dydd Sadwrn 9.30am tan 1.00pm.

Cyngor cyfreithiol di-dâl ar broblemau mewnfudo a lloches

Am gyngor di-dâl ar fewnfudo neu loches, gweler y sefydliadau isod.

Cyngor y Ffoaduriaid

Mae Cyngor y Ffoaduriaid yn rhoi gwybodaeth a chyngor i geiswyr lloches a ffoaduriaid. Maen nhw hefyd yn rhoi gwasanaeth i blant sy’n cyrraedd y DU ar eu pen eu hunain ac yn helpu oedolion i ddod o hyd i waith.

Cymorth Lloches

Mae Cymorth Lloches yn cynnig cynrychiolaeth cyfreithiol arbenigol a chyngor i bobl sy'n ceisio lloches yn y DU.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo

Swyddfa’r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo (OISC) sy’n gyfrifol am sicrhau bod pob cynghorwr mewnfudo yn cwrdd â gofynion arferion da.

Y Gwasanaeth Cyngor ar Fewnfudo

Elusen yw'r Gwasanaeth Cyngor ar Fewnfudo sy'n gallu cynnig eich cynrychioli a rhoi cyngor ichi gyda'ch achos mewnfudo a lloches.

Cyngor cyfreithiol di-dâl ar broblemau defnyddwyr

Am gyngor di-dâl ar broblemau defnyddwyr gweler y sefydliadau isod.

Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr

Os ydych yn anhapus gyda’r ffordd y mae eich cwmni dŵr neu garthffosiaeth wedi trin eich cwyn, gallwch ofyn i'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr ddelio â'ch cwyn.

Y Swyddfa Masnachu Teg

Mae’r Swyddfa Masnachu Teg yn gorfodi’r gyfraith ar gystadleuaeth a gwarchod y defnyddiwr. Mae eu gwefan yn cynnig cyngor cyffredinol ar hawliau defnyddwyr yn y DU.

Cymdeithas Asiantau Teithio Prydain (ABTA)

Mae ABTA yn rheoleiddio asiantau teithio ledled Prydain ac yn helpu i warchod defnyddwyr drwy orfodi rheolau a rheoliadau. Medrant gynnig cyngor ar sut i ddatrys problemau y gallech fod yn eu cael gydag asiant teithio.

• Gwefan Cymdeithas Asiantau Teithio Prydain 

Cyngor cyfreithiol di-dâl ar broblemau iechyd ac anafiadau

Gall y sefydliadau canlynol roi cyngor ichi ar unrhyw broblemau iechyd a diogelwch y gallech fod yn eu cael neu os cawsoch eich anafu.

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn gweithio i warchod hawliau a chyfrifoldebau gweithwyr. Maen nhw hefyd yn sicrhau bod cyflogwyr yn deall eu cyfrifoldebau cyfreithiol yn y gweithle.

Cymdeithas y Cyfreithwyr Anafiadau Personol (APIL)

Mae gwefan APIL yn cynnig cyngor a gwybodaeth am eich hawliau os cawsoch eich anafu a’ch helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol.

Cyngor cyfreithiol di-dâl ar broblemau yn y gwaith

Os ydych yn cael problemau yn y gwaith, er enghraifft gyda chyflog neu wahaniaethu, gweler y rhestr isod o sefydliadau sy’n cynnig cymorth a chyngor am ddim.

ACAS (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu)

Mae ACAS yn darparu gwybodaeth gyffredinol am hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth a medrant hefyd helpu gweithwyr a chyflogwyr sy'n rhan o anghydfod cyflogaeth i ganfod ffyrdd ymarferol o ddatrys y broblem. Ffoniwch 08456 06 16 00 rhwng dydd Llun a dydd Gwener 8.00am tan 8.00pm, dydd Sadwrn 9.00am tan 1.00pm.

Llinell Gymorth ar Hawliau Cyflog a Gwaith

Mae’r llinell gymorth gyfrinachol yma’n rhoi cymorth a chyngor ar hawliau cyflogaeth a orfodir gan y llywodraeth. Mae’n rhoi gwybodaeth am faterion sy’n cynnwys hawliau o dan yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gweithwyr asiantaeth ac oriau gweithio.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Am gyngor neu wybodaeth am wahaniaethu, cydraddoldeb a hawliau dynol, gallwch gysylltu â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

 

 

Diweddarwyd diwethaf: 05 Mai 2011

Dogfennau
Dim dogfennau
Dolennau
About Us [1] - About legal aid [2] - Community Legal Service (CLS) [3] - Criminal Defence Service (CDS) [4] - Site Map [5] - Help [6] - Document Archive [7] - Search [8] - Home [9] - Cymraeg [c] - LSC Online [0]
[Access Key]

© 2010 Legal Services Commission. All Rights Reserved.
Read our: Legal Disclaimer, Privacy and Copyright Notice