Press Release
Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol Yn Lansio Ymgynghoriad Ar Ddrafft Gynllun Iaith Gymraeg
2 Awst 2005
Mae’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol heddiw wedi lansio papur ymgynghori ar ei Gynllun Iaith Gymraeg arfaethedig.
Wrth siarad yn y lansiad yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, dywedodd Tom Jones OBE, Cadeirydd Pwyllgor Gwasanaethau Cyfreithiol Cymru:
‘Rydym wedi mabwysiadu’r egwyddor y byddwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Cynllun yn nodi sut y byddwn yn gweithredu’r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. Buom yn gweithio’n agos gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrth ddatblygu’r Papur Ymgynghori hwn, ac edrychaf ymlaen at gyhoeddi ein cynllun yn 2006.’
Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg hyd 1 Tachwedd 2005, a dylid anfon unrhyw sylwadau am y cynllun arfaethedig at Swyddfa Cymru y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol erbyn y dyddiad hwn.
Ychwanegodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg:
‘Rwy'n falch iawn i weld y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yn arddangos ei ymrwymiad i'r Gymraeg wrth lansio ei gynllun iaith arfaethedig heddiw. Mae ei benderfyniad i osod y Gymraeg yn gydradd â'r Saesneg yn galonogol iawn. Dyma gam arall tuag at alluogi pobl i fyw eu bywydau drwy eu dewis iaith.’
Medrir lawrlwytho’r Papur Ymgynghori o wefan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol - http://www.legalservices.gov.uk/civil/regions/cardiff_information.asp
neu drwy gysylltu â Shone Hughes ar 029 2064 7203.
Gwybodaeth i’r Cyfryngau
Shone Hughes: 029 2064 7203
Nodiadau i’r Golygydd
Mae’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yn helpu pobl i gael gwasanaethau cyfreithiol a chynghori a gyllidir yn gyhoeddus. Mae ei waith yn neilltuol o bwysig wrth sicrhau mynediad i gyfiawnder i bobl fregus a rhai sydd wedi eu hallgau’n gymdeithasol. Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 i olynu’r Bwrdd Cymorth Cyfreithiol ac mae’n gorff cyhoeddus annibynnol a noddir gan yr Adran Materion Cyfansoddiadol. Mae’n cyllido dau gynllun - y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol am Gymorth Sifil a’r Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol ar gyfer Cymorth Cyfreithiol Troseddol.
Dylid anfon ymatebion i’r ymgynghoriad drwy e-bost, post neu ffacs erbyn 1 Tachwedd at:
Shone Hughes, Rheolwr Cyfathrebu, Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol, Tŷ Marland, Sgwâr Canolog, Caerdydd CF10 4DX
Ffacs: 029 2064 7171, e-bost: shone.hughes@legalservices.gov.uk
Gofynnir i ymatebwyr nodi y medrir cyhoeddi’r ymatebion. Os dymunant i’w hymatebion gael eu cadw’n gyfrinachol, gofynnir iddynt nodi hynny. Bydd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gael yn gynnar yn 2006.
Last updated: 28 December 2006