Sut i gael cymorth cyfreithiol

I gael cymorth cyfreithiol mae angen ichi gwrdd ag amodau arbennig. Gall cynghorydd cyfreithiol edrych i weld a ydych yn gymwys ai peidio, a gwneud cais ar eich rhan ichi gael cymorth cyfreithiol. Dysgwch fwy am sut i gael cymorth cyfreithiol a beth i’w wneud os nad ydych yn gymwys i’w gael.

Gwirio eich bod yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol

Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell cymhwyster cymorth cyfreithiol i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol.

Bydd y gyfrifiannell yn gofyn cwestiynau cyffredinol ichi am eich problem a’ch sefyllfa ariannol. Ni fydd yn gwarantu y byddwch yn cael cymorth cyfreithiol.

Cael cymorth cyfreithiol os ydych o dan 18 oed

Os ydych o dan 18 oed bydd eich cymhwyster i gael cymorth cyfreithiol yn dibynnu ar incwm a chyfalaf eich rhieni neu warcheidwad. Ond os yw eich problem gyfreithiol rhyngoch chi a’ch rhieni, efallai na fydd hyn yn berthnasol.

Gwneud cais am gymorth cyfreithiol

Os ydych yn credu eich bod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, dylech ffonio’r gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol. Bydd y gwasanaeth hwn naill ai'n eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd lleol neu'n gwirio eich cymhwyster ac yn eich rhoi mewn cysylltiad â chynghorydd arbenigol annibynnol dros y ffôn i'ch helpu gyda'ch problem.  Gall cynghorwyr Cyngor Cyfreithiol Cymunedol roi cyngor ar ddyledion, addysg, teulu, budd-daliadau a chredydau treth, problemau cyflogaeth a thai.

Gallwch ffonio’r gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol ar 0845 345 4345. Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng dydd Llun a dydd Gwener 9.00am tan 8.00pm. Mae’r llinell gymorth hefyd ar agor ar ddydd Sadwrn o 9.00am tan 12.30pm. Mae’r galwadau’n costio 4 ceiniog y funud o linell dir BT. Mae galwadau o ffonau symudol fel arfer yn costio mwy. Os ydych yn poeni am gost yr alwad, gallant eich ffonio’n ôl.

Gallwch hefyd decstio ‘legalaid’ yna eich enw at 80010 a bydd y gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn eich ffonio’n ôl o fewn 24 awr.

Mae’r cyngor yn annibynnol a chyfrinachol.

Dylech gael y wybodaeth ganlynol arnoch pan fyddwch yn siarad gyda chynghorydd cyfreithiol:

Os yw’r cynghorydd cyfreithiol yn penderfynu eich bod yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol, byddant yn gwneud y cais ar eich rhan. Os yw’r cynghorydd cyfreithiol yn penderfynu eich bod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, byddwch yn dechrau derbyn cymorth cyfreithiol yn syth.

Gallwch gysylltu gyda chynghorydd cyfreithiol yn uniongyrchol i’ch helpu i gael cymorth cyfreithiol. Gallwch hefyd chwilio ar-lein am gynghorydd cyfreithiol yn eich ardal chi.

Cael help os nad ydych yn gymwys am gymorth cyfreithiol

Os nad ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol gallech roi cynnig ar:

Mae rhai cyfreithwyr neu gynghorwyr cyfreithiol yn cynnig rhai gwasanaethau yn ddi-dâl. Gelwir hyn yn ‘Pro Bono’ ac mae’n golygu ‘er lles y cyhoedd’. Gall rhai cyfreithwyr neu gynghorwyr cyfreithiol hefyd gynnig cyngor ichi am gost is.


 

Diweddarwyd diwethaf: 09 Mai 2011

Dogfennau
Dim dogfennau
Dolennau
About Us [1] - About legal aid [2] - Community Legal Service (CLS) [3] - Criminal Defence Service (CDS) [4] - Site Map [5] - Help [6] - Document Archive [7] - Search [8] - Home [9] - Cymraeg [c] - LSC Online [0]
[Access Key]

© 2010 Legal Services Commission. All Rights Reserved.
Read our: Legal Disclaimer, Privacy and Copyright Notice