Talu cymorth cyfreithiol yn ol a chyfrannu at eich costau cyfreithiol

Efallai y bydd rhaid ichi dalu unrhyw gymorth cyfreithiol a gawsoch yn ôl neu gyfrannu tuag at gostau cyfreithiol eich achos. Mae hyn yn dibynnu ar sut fath o broblem sydd gennych ac ar eich sefyllfa ariannol. Dysgwch fwy am bryd a sut y bydd efallai angen ichi gyfrannu at eich costau cyfreithiol.

Pam y bydd rhaid ichi efallai helpu i dalu am eich achos

Os rhoddir cymorth cyfreithiol ichi, bydd eich cyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol yn cael eu talu’n uniongyrchol – ni fyddwch chi’n cael unrhyw arian eich hun i dalu’r biliau cyfreithiol. Efallai y bydd yn dal angen ichi dalu peth o'r costau cyfreithiol hyd yn oed os ydych yn cael cymorth cyfreithiol. Mae hyn yn dibynnu ar sut fath o broblem sydd gennych ac ar eich sefyllfa ariannol.

Bydd unrhyw daliadau y bydd efallai angen ichi eu gwneud tuag at eich cymorth cyfreithiol yn dibynnu ar y wybodaeth ariannol a roesoch i’ch cynghorydd cyfreithiol. Ni fydd yn rhaid i bawb wneud taliadau. Bydd eich cynghorydd cyfreithiol yn dweud wrthych a fydd rhaid ichi wneud taliadau ai peidio, faint fydd y taliadau a sut y gallwch eu talu.

Beth ddylai eich cynghorydd cyfreithiol ei egluro

Rhaid i’ch cynghorydd cyfreithiol egluro ichi sut a pham y bydd efallai angen ichi dalu peth o'r cymorth cyfreithiol yn ôl. Rhaid iddynt roi'r daflen 'Talu am eich cymorth cyfreithiol' ichi. Os nad ydych wedi derbyn y daflen hon, gallwch ei lawrlwytho.

Cofiwch ddweud wrth eich cynghorydd os bydd eich sefyllfa ariannol yn newid

Rhaid ichi ddweud wrth eich cyfreithiwr os bydd eich sefyllfa ariannol yn newid, hyd yn oed os nad ydych yn gorfod cyfrannu at eich costau cyfreithiol. Gallai newid i’ch sefyllfa ariannol olygu y bydd angen ichi ddechrau gwneud taliadau, neu y bydd gwerth eich taliadau’n cynyddu neu’n lleihau.

Os na fyddwch yn dweud wrth eich cyfreithiwr am newid i'ch sefyllfa ariannol, gallech golli eich cymorth cyfreithiol i gyd. ‘Diddymu eich tystysgrif’ yw’r enw a roddir ar hyn ac mae’n golygu y byddai’n rhaid ichi dalu’r holl arian a gawsoch fel cymorth cyfreithiol yn ôl.

Sut i wneud taliadau tuag at gostau eich achos

Os oes rhaid ichi dalu unrhyw arian eich hun, mae tair ffordd o wneud hyn:

Pan fyddwch yn gwneud taliadau tuag at gostau eich achos, efallai y bydd yn rhaid ichi ddefnyddio un neu bob un o’r dulliau hyn.

Os dyfarnir arian ichi ar ddiwedd eich achos

Os byddwch yn ennill neu’n cadw arian o ganlyniad i’ch achos a chithau wedi derbyn cymorth cyfreithiol, efallai y bydd yn rhaid ichi dalu peth neu’r cyfan o’r cymorth cyfreithiol yn ôl. Yn y sefyllfa hon, gall cymorth cyfreithiol weithredu fel benthyciad. Gelwir hyn yn ‘daliad statudol’.

Gallwch dalu eich cymorth cyfreithiol yn ôl nes ymlaen os gwnaethoch ddefnyddio unrhyw arian y dyfarnwyd ichi i brynu cartref. Gallwch ddewis talu’r swm sy’n ddyledus mewn taliadau rheolaidd neu wneud un cyfandaliad o'r swm cyfan ar unrhyw adeg.

Tra bydd arnoch arian, efallai y codir llog arnoch am y swm sydd ar ôl i'w dalu.

Os byddwch yn ennill neu'n cadw eiddo ar ddiwedd eich achos

O ganlyniad i’ch achos, efallai y byddwch yn llwyddo i ennill neu i gadw eiddo y byddwch yn ei ddefnyddio fel cartref. Efallai y gallwch ohirio gorfod talu eich cymorth cyfreithiol yn ôl drwy gael ‘arwystl’ wedi’i gofrestru ar eich eiddo. Gelwir hyn yn ‘cofrestru arwystl’ ac mae’n golygu bod gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol hawl dros ran o werth eich eiddo.

Sut y cyfrifir eich costau cyfreithiol

Mae pob bil cyfreithiwr yn cael ei asesu gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol neu gan y llys ar ddiwedd yr achos. Gwneir hyn i sicrhau bod bil y cyfreithiwr yn un teg.

Rhaid i’ch cyfreithiwr ddangos eu bil ichi cyn iddo gael ei asesu. Dylech gysylltu gyda’ch cyfreithiwr os na welsoch y bil ar ddiwedd eich achos. Gall bil eich cyfreithiwr fynd i lawr ar ôl iddo gael ei asesu.

 

 

Diweddarwyd diwethaf: 11 Mai 2011

Dogfennau
Dim dogfennau
Dolennau
About Us [1] - About legal aid [2] - Community Legal Service (CLS) [3] - Criminal Defence Service (CDS) [4] - Site Map [5] - Help [6] - Document Archive [7] - Search [8] - Home [9] - Cymraeg [c] - LSC Online [0]
[Access Key]

© 2010 Legal Services Commission. All Rights Reserved.
Read our: Legal Disclaimer, Privacy and Copyright Notice